Arbenigwyr yn cyflwyno’r hyn y gallai trafodaethau masnach gyda’r UE olygu i Gymru gerbron Pwyllgor
Arbenigwyr yn cyflwyno’r hyn y gallai trafodaethau masnach gyda’r UE olygu i Gymru gerbron Pwyllgor
28 August 2020
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cymryd tystiolaeth gan banel o arbenigwyr economaidd a masnach wrth iddo archwilio goblygiadau negodiadau masnach y DU gyda’r UE yn ogystal â gwledydd eraill i Gymru.
Bydd y gyfres nesaf o negodiadau masnach rhwng y DU a’r UE yn dechrau ar 7 Medi ac mae’r trafodaethau yn debygol o fod yn rhai tyngedfennol.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn debygol o holi;
- Sut y byddai’r DU yn masnachu ar delerau WTO yn effeithio Cymru ;
- Y blaenoriaethau i Gymru os oes cytundeb masnach; a
- Manteision a chyfleoedd yn deillio o gytundebau masnach gyda gwledydd y tu hwnt i Ewrop i Gymru.
Tystion
Am 9.30:
- Mujtaba Rahman, Rheolwr Gyfarwyddwr, Ewrop, Eurasia Group;
- Shanker Singham, Prif Weithredwr, Competere;
- Sam Lowe, Uwch-Gymrawd Ymchwil, Centre for European Reform
Gwyliwch yn fyw ac ar alw ar Parliament TV.