Skip to main content
Menu
brexit, trade, goblygiadau, Wales, tystiolaeth

Arbenigwyr yn cyflwyno’r hyn y gallai trafodaethau masnach gyda’r UE olygu i Gymru gerbron Pwyllgor

3 September 2020

Image of UK Parliament portcullis

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cymryd tystiolaeth gan banel o arbenigwyr economaidd a masnach wrth iddo archwilio goblygiadau negodiadau masnach y DU gyda’r UE yn ogystal â gwledydd eraill i Gymru.

Pwrpas y sesiwn

Bydd y gyfres nesaf o negodiadau masnach rhwng y DU a’r UE yn dechrau ar 7 Medi ac mae’r trafodaethau yn debygol o fod yn rhai tyngedfennol.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn debygol o holi:

  • Sut y byddai’r DU yn masnachu ar delerau WTO yn effeithio Cymru;

  • Y blaenoriaethau i Gymru os oes cytundeb masnach; a

  • Manteision a chyfleoedd yn deillio o gytundebau masnach gyda gwledydd y tu hwnt i Ewrop i Gymru.

Tystion

Dydd Iau 3 Medi 2020

Am 09.30:

  • Mujtaba Rahman, Rheolwr Gyfarwyddwr, Ewrop, Eurasia Group;

  • Shanker Singham, Prif Weithredwr, Competere;

  • Sam Lowe, Uwch-Gymrawd Ymchwil, Centre for European Reform

Gwybodaeth bellach

Delwedd: Unsplash