Skip to main content
Menu

Dylid mynd ati i ymgymryd â gwelliannau a thrydaneiddio seilwaith rheilffyrdd Cymru sy’n heneiddio trwy gydweithio rhwng y DU a Chymru a fyddai’n gwella gwasanaethau i gwsmeriaid

14 July 2021

There is no description available for this image (ID: 138542)

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig heddiw wedi galw am sefydlu Bwrdd Rheilffyrdd Cymru newydd erbyn yr hydref—fyddai’n cynnwys cyrff llywodraeth y DU a Chymru—sy’n medru ystyried gwelliannau ac uwchraddio i seilwaith y rheilffyrdd sy’n heneiddio yng Nghymru.

Mae seilwaith rheilffyrdd Cymru yn achubiaeth i filiynau, yn cysylltu cymunedau ac yn ganolog i waith cludo nwyddau yng Nghymru ac ar draws y DU. Serch hynny, mae’n system Fictoraidd sy’n ceisio cefnogi lefel o wasanaeth yn yr 21fed ganrif, ac mae profiadau teithwyr yn cynnwys gwasanaethau araf a gorsafoedd diffygiol.

Er mwyn gwella seilwaith rheilffyrdd Cymru, ceir angen dybryd am welliannau brys a gefnogir gan fuddsoddi digonol. Mae’r Pwyllgor wedi argymell Bwrdd Rheilffyrdd Cymru newydd, sy’n cynnwys Llywodraethau’r DU a Chymru, Network Rail, gweithredwyr y rheilffyrdd sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru, a Thrafnidiaeth Cymru, er mwyn nodi’r gwelliannau a buddsoddiant sydd eu hangen.

Er bod buddsoddiant sylweddol wedi ei wneud yn HS2, sy’n arwain at gadwyn cyflenwi a gwmpasa’r DU gyfan gan gynnwys Cymru, ni fydd Cymru yn buddio yn yr un ffordd â’r Alban a Gogledd Iwerddon o gyllid canlyniadol trwy fformiwla Barnett yn deillio o’r prosiect. Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai HS2 gael ei ailddosbarthu fel prosiect i Loegr yn unig. Gan ddefnyddio fformiwla Barnett, dylid ail-gyfrifo setliad cyllido Cymru i roi cyfran ychwanegol yn seiliedig ar y cyllid ar gyfer HS2 yn Lloegr. Awgrymwn y byddai ailddosbarthu o’r math yn helpu sicrhau bod teithwyr trên o Gymru yn derbyn yr un fantais o fuddsoddiant yn HS2 â theithwyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r Pwyllgor yn nodi y gallai HS2 greu buddion mwy clir ac uniongyrchol i deithwyr trên Cymru os yw’n digwydd ynghyd â gwelliannau i orsafoedd Caer a Crewe, a fedrai helpu hyrwyddo trydaneiddio prif lein Gogledd Cymru. Felly, mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth y DU, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, baratoi achos strategol llawn ar gyfer gwella a thrydaneiddio prif lein Gogledd Cymru.

Gall trydaneiddio’r rheilffyrdd chwarae rôl allweddol yn agenda datgarboneiddio Llywodraeth y DU ac mae’r Pwyllgor wedi dadlau bod y penderfyniad i ohirio trydaneiddio prif lein Great Western o Gaerdydd i Abertawe yn annoeth. Mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth y DU i gyflwyno cynlluniau newydd cyn diwedd 2021 ar gyfer cysylltedd pellach rhwng Abertawe, Caerdydd a Briste, a allai gynnwys cwblhau trydaneiddio ar y brif lein rhwng Caerdydd ac Abertawe.

Sylwadau'r Cadeirydd

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, y Gwir Anrh Stephen Crabb AS:

“Ceir achos cymhellgar dros fuddsoddi pellach yn seilwaith rheilffyrdd Cymru er mwyn gwella amseroedd siwrneiau i deithwyr, cryfhau cysylltedd â gweddill y Deyrnas Unedig a lleihau allyriadau carbon.

“Bydd cyrraedd ein targedau sero net yn gofyn am fuddsoddi sylweddol yn nhrydaneiddio’r rheilffyrdd. Credwn y dylai hyn arwain at ail-ystyried y penderfyniad annoeth i ohirio trydaneiddio prif lein Great Western o Gaerdydd i Abertawe.

“Er bydd lleisiau bob amser yn galw am ddatganoli pellach o bwerau’n ymwneud â’r rheilffyrdd, mae’n glir mai beth sydd angen fwyaf ar deithwyr yw i’w dwy lywodraeth, ynghyd â gweithredwyr y rheilffyrdd, weithio gyda’i gilydd. Mae ein Pwyllgor wedi cynnig Bwrdd Rheilffyrdd Cymru newydd, fyddai’n dod â’r ddwy lywodraeth, Network Rail a gweithredwyr y rheilffyrdd ynghyd, gyda thasg yn cael ei gosod i’r Bwrdd, a ddylai gael ei sefydlu erbyn yr hydref, o gyflwyno piblinell ar y cyd ar gyfer prosiectau yn ymwneud â’r rheilffyrdd yng Nghymru.”

Argymhellion

Dyma argymhellion y Pwyllgor Materion Cymreig:

  • Byddai cyflwyno cynlluniau newydd ar gyfer cysylltedd pellach rhwng Abertawe, Caerdydd a Briste, a fyddai’n cynnwys cwblhau trydaneiddio ar y brif lein rhwng Caerdydd ac Abertawe, a Metro Bae Abertawe er mwyn integreiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus tua’r gorllewin i Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin a darparu defnyddwyr i’r gwasanaeth rheilffyrdd o Abertawe, yn arwydd bwysig o ymrwymiad Llywodraeth y DU i’w agenda werdd ac i wella cysylltedd ledled y DU. Galwn ar Lywodraeth y DU i gyflwyno cynlluniau drafft cyn diwedd 2021.

  • Dylai Llywodraeth y DU sefydlu Bwrdd Rheilffyrdd Cymru, sy’n cynnwys y Llywodraeth ei hun, Llywodraeth Cymru, Network Rail, gweithredwyr y rheilffyrdd sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru, a Thrafnidiaeth Cymru, gyda tasg yn cael ei gosod i’r Bwrdd o nodi a datblygu cyfres o gynigion yn ôl blaenoriaeth ar gyfer gwella a buddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru. Dylai’r Bwrdd gael ei sefydlu, gyda’i aelodaeth a’i chylch gorchwyl wedi’u cyhoeddi, erbyn yr hydref.

  • Dylai Llywodraeth y DU gyflwyno ei chynlluniau i ddiwygio’r Piblinell Gwelliannau Rhwydwaith Rheilffyrdd er mwyn sbarduno cyflenwi prosiectau yng Nghymru.

  • Y sgil cyhoeddiad Adolygiad Cysylltedd yr Undeb, sydd ar ddod, argymhellwn y dylai’r broses ar gyfer mesur gwerth cynlluniau yn ymwneud â seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru ystyried uchelgeisiau strategol Llywodraeth y DU i gryfhau cysylltiadau rhwng pob rhan o’r DU.

  • Argymhellwn y dylai HS2 gael ei ailddosbarthu fel prosiect i Loegr yn unig. Gan ddefnyddio fformiwla Barnett, dylid ail-gyfrifo setliad cyllido Cymru i roi cyfran ychwanegol yn seiliedig ar y cyllid ar gyfer HS2 yn Lloegr. Byddai hyn yn helpu sicrhau bod teithwyr trên o Gymru yn derbyn yr un fantais o fuddsoddiant yn HS2 â theithwyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

  • Gallai datblygu rhaglen HS2 yn Lloegr greu buddion uniongyrchol i deithwyr trên Cymru os yw’n digwydd ynghyd â gwelliannau i brif lein Gogledd Cymru, sy’n cynnwys gwelliannau i orsafoedd Caer a Crewe fydd eu hangen er mwyn gallu trydaneiddio prif lein Gogledd Cymru yn gyfan gwbl. Felly, dylid paratoi achos strategol llawn ar gyfer gwella a thrydaneiddio prif lein Gogledd Cymru. Byddai atgyfnerthu buddion HS2 i Gymru wrth leihau amser siwrneiau o fewn Gogledd Cymru, cynyddu capasiti cludo a gwella cysylltiadau o Gaergybi i brif lein Arfordir Gorllewin Lloegr yn gyson ag amcanion economaidd ac amgylcheddol Llywodraeth y DU ac amcanion Adolygiad Cysylltedd yr Undeb.

  • Dylid gwneud ymdrechion i ddatblygu synergedd rhwng ymdrechion i leihau effaith newid yr hinsawdd, gan gynnwys gwarchod rhag cynnydd yn lefel y môr, a chamau i warchod seilwaith trafnidiaeth. Gan nodi bod rhan sylweddol o seilwaith trafnidiaeth Cymru yn rhedeg naill ai yn agos at yr arfordir neu ar linellau trwy gymoedd (yn aml wrth ymyl afonydd), credwn bod cyfleoedd sylweddol i gysylltu ymdrechion a chyllidebau ar gyfer gwarchod seilwaith trafnidiaeth â gwaith gwarchod cymunedol ehangach.

  • Dylai Bwrdd Rheilffyrdd Cymru:
    • sefydlu blaenoriaethau disyfyd ar gyfer buddsoddi mewn isadeiledd;
    • ystyried sut y gellir gwella gwasanaethau i deithwyr heb leihau capasiti cludo yn anfwriadol; a
    • phenderfynu, taith wrth daith, beth fydd gwasanaethau gwell yn golygu i deithwyr, o ran amlder, cyflymdra a chost.

Delwedd: © M J Richardson (cc-by-sa/2.0)