Skip to main content
Menu

Sut caiff Cronfeydd Ffyniant Gyffredin y DU eu dyrannu i awdurdodau lleol Cymru? ASau San Steffan yn holi cynrychiolwyr llywodraeth leol Cymru a'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid

2 September 2022

There is no description available for this image (ID: 160173)

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal sesiwn dystiolaeth untro i drafod dyraniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) i awdurdodau lleol Cymru. Bydd ASau yn clywed gan arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS). 

  • Sesiwn dystiolaeth: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
  • Dydd Mercher 7 Medi, 10.00
  • Ystafell Bwyllgor 5, Palas San Steffan
  • Gwyliwch YN FYW

UKSPF yw cronfa Llywodraeth y DU sy'n disodli Cronfeydd Strwythurol yr UE. Mae'r UKSPF yn buddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, yn cefnogi busnesau, pobl a sgiliau, gyda Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yn galluogi prosesau gwneud penderfyniadau gwirioneddol leol ac yn targedu blaenoriaethau lleoedd o fewn y DU yn well.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru'n dadlau nad yw'r cynigion yn adlewyrchu anghenion cymunedau Cymru nac yn parchu'r setliad datganoli, ac mae pryder wedi'i godi ynghylch faint o amser a neilltuwyd gan Lywodraeth y DU i ymgynghori â Llywodraeth Cymru. Mae'r IFS wedi cynnal dadansoddiad yn ddiweddar ac wedi lleisio pryderon am sut mae'r dyraniadau ar gyfer Cymru wedi'u cyfrifo, gan ddadlau ei fod wedi costio miliynau o bunnoedd i rai ardaloedd.

Daw'r sesiwn dystiolaeth hon yn dilyn ymchwiliad blaenorol y Pwyllgor Materion Cymreig i Gymru a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, a gafodd ei orffen cyn i'r cyfnod pontio Brexit ddod i ben. Ar y pryd, argymhellodd yr aelodau y dylai Llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig a llywodraeth leol ddatblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy'n seiliedig ar gydweithio ac ymgysylltu gwirioneddol i’r holl randdeiliaid. Hefyd, galwodd y Pwyllgor ar Lywodraethau'r DU a Chymru i ystyried o ddifrif rôl llywodraeth leol yn cyflwyno’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. 

Tystion o 10.00

  • Y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;  
  • Y Cynghorydd Rob Stewart, Llefarydd yr Economi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Arweinydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe;
  • Y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar Ddatblygu Economaidd, Strategaeth ac Adfywio, Cyngor Sir Powys;
  • Y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Dirprwy Lywydd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Tystion o 11.00

  • David Phillips, Cyfarwyddwr Cyswllt, Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid

Further information

Image: Parliamentary copyright