Skip to main content
Menu

“Nawr yw’r amser i Gymru”: o dwristiaeth i wynt alltraeth arnofiol, o ynni niwclear i allforio cig oen Cymru, y Pwyllgor Materion Cymreig yn clywed am y cyfleoedd yn ystod taith i UDA

17 January 2023

There is no description available for this image (ID: 175485)

Teithiodd aelodau o’r Pwyllgor Materion Cymreig i Efrog Newydd, Washington ac Atlanta yr wythnos diwethaf ar ymweliad canfod ffeithiau a oedd yn cyfuno teithio o amgylch safle niwclear newydd, cyfarfodydd bord gron gydag arweinwyr busnes, meithrin cysylltiadau â chymunedau Cymry ar wasgar a datblygu cysylltiadau â'r Cawcws Cymreig yn y Gyngres. Clywodd y Pwyllgor gan swyddogion VisitBritain a Croeso Cymru mai "nawr yw’r amser i Gymru", gyda 'Welcome to Wrexham' gan Disney+ yn cyflwyno cenhedlaeth o Americanwyr i gymunedau Cymru.

Yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor i 'Wales as a Global Tourist Destination', cyfarfu'r Pwyllgor â swyddogion o Lywodraeth Cymru, yr Adran Fasnach Ryngwladol a Gwasanaeth Diplomyddol y DU. Trafodwyd y cydweithio parhaus er mwyn hyrwyddo’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig: cenedl chwaraeon gyda chymunedau busnes arloesol, harddwch naturiol eithriadol a chysylltiadau treftadaeth hanesyddol â phoblogaeth Gymreig yr Unol Daleithiau.

Yn dilyn ei ymchwiliad i 'Ynni Niwclear yng Nghymru', yng nghyd-destun yr adweithydd niwclear gigawat a gafodd ei gynnig ar gyfer Wylfa i gyflawni uchelgeisiau Strategaeth Diogelwch Ynni Prydain, manteisiodd y Pwyllgor ar y cyfle i fynd ar daith o amgylch gwaith newydd Bechtel and Westinghouse yn Waynesboro, Georgia. Mae Bechtel and Westinghouse wedi mynegi diddordeb yn y gwaith o ddatblygu Wylfa. Bu’r ymweliad yn help i aelodau'r Pwyllgor ddeall yr her beirianyddol o adeiladu atomfa niwclear newydd ac i ddeall y gwaddol sgiliau, cyflogaeth ac ynni gwyrdd posibl a allai ddeillio o brosiect ar y raddfa hon.

Manteisiodd y Pwyllgor ar y cyfle i hyrwyddo cig oen Cymru i Gyngor Mewnforio Cig America ac i ddeall y rhwystrau wrth gynyddu allforion. Fe wnaeth cyfarfod i ddysgu am brosiectau ynni gwynt alltraeth Efrog Newydd roi hwb i ddealltwriaeth y Pwyllgor o’r cyfle byd-eang yn sgil Gwynt Alltraeth Arnofiol, lle mae’r DU yn arwain y byd.

Roedd ymrwymiad swyddogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i'w gwaith wedi creu argraff fawr ar y Pwyllgor, o Lysgennad EF i Washington, y Fonesig Karen Pierce, DCMG a'r Prif Gonswl Emma Wade-Smith, OBE yn Efrog Newydd a'u timau, i swyddogion Llywodraethau Cymru a’r DU sy'n cyflwyno polisi ar bob lefel.

Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS:

"Mae’n amlwg nad yw hi erioed wedi bod yn amser gwell i Gymru ystyried ei rôl yn y byd fel cyfranogwr byd-eang bach ond grymus. Roedd ein hamserlen yn llawn dop er mwyn i ni allu manteisio i’r eithaf ar ein hamser yn yr Unol Daleithiau ac rydyn ni wedi dychwelyd wedi’n grymuso gan ymrwymiad ein gweision cyhoeddus sy’n cynrychioli Cymru dramor ac wedi’n cyfoethogi gan y dysgu a’r cysylltiadau newydd i ni eu gwneud. Bydd adroddiadau’r Pwyllgor sydd yn yr arfaeth yn cael eu seilio ar y ddealltwriaeth gadarn rydyn ni wedi’i chael wrth gyfarfod pobl ar lawr gwlad.”

Further information 

Image: Parliamentary copyright