Skip to main content
Menu

Prif Ysgrifennydd y Trysorlys i ymddangos gerbron ASau i drafod y fframwaith ar gyfer cyllid cyhoeddus yng Nghymru a sut mae Cymru'n cael ei hystyried wrth wneud penderfyniadau cyllidol

30 June 2023

There is no description available for this image (ID: 196086)

Bydd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus John Glen AS, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig wrth i’r pwyllgor gynnal sesiwn dystiolaeth unigol ar Fframwaith Cyllidol Cymru a'r heriau cyllido cysylltiedig.

Sesiwn Dystiolaeth

Bydd y sesiwn dystiolaeth eang yn cynnig cyfle i aelodau archwilio sut mae Cymru'n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU. Byddant yn ystyried tryloywder dyraniadau cyllid a benthyciadau i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â dyraniad Cymru o gyllid ffyniant bro a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Bydd ASau hefyd yn debygol o drafod materion eraill gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, megis penderfyniadau yn y Trysorlys cyn digwyddiadau cyllidol, fel Cyllideb y Gwanwyn, a sut mae barn ac anghenion Cymru yn cael eu hadlewyrchu.

Tystion

O 09.45:

  • Y Gwir Anrhydeddus John Glen AS, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys
  • Ben Parker, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Tîm Datganoli, Trysorlys EF

Rhagor o wybodaeth

Image credit: HM Treasury Flickr