Skip to main content
Menu

Canllawiau Cymru ar gyfer Senedd y DU

Lawrlwythwch gyhoeddiadau am ddim gan Senedd y DU am wybodaeth ar Aelodau Seneddol ac Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi yn Gymraeg.

Chi a'ch AS

Mae ASau yn cynrychioli pawb yn eu hardal leol, os bu iddynt bleidleisio drostynt neu beidio. Gallant siarad yn Nhŷ'r Cyffredin ar faterion sydd o bwys i chi. Defnyddiwch ein canllawiau i gael gwybod pwy yw eich AS, sut mae cysylltu â nhw a sut mae modd iddynt eich helpu.

Canllaw i Waith yn y Siambr – Tŷ'r Arglwyddi

Canllawiau clou ar gyfer gwylio busnes yn y siambr – ar-lein neu yn y galerïau cyhoeddus. Cewch wybod pryd mae popeth yn digwydd, cewch wybod am yr aelodau a sut maent yn gwneud gwaith yn y siambr yn ogystal â'r mathau o waith sy'n digwydd.