Skip to main content
Menu

Cysylltwch â Gwasanaeth Ymholiadau Tŷ'r Arglwyddi

Mae Gwasanaeth Ymholiadau Tŷ'r Arglwyddi'n ateb cwestiynau am waith, rôl ac aelodaeth Tŷ'r Arglwyddi.

Mae Gwasanaeth Ymholiadau Tŷ'r Arglwyddi'n derbyn llwyth ac amryw o gwestiynau gan y cyhoedd, er enghraifft:

  • Oes modd i mi ofyn i aelodau o Dŷ'r Arglwyddi am help gyda fy mhroblem a pha rai dylwn i gysylltu â nhw ynglŷn â'r broblem benodol hon? 
  • Pa aelodau o Dŷ'r Arglwyddi fydd yn gweithio ar ddrafft o'r ddeddf/o'r bil?
  • Beth yw sefyllfa bresennol drafft y ddeddf/y bil a beth fydd yn digwydd nesaf?
  • Sut oes modd i mi godi'r mater hwn?
  • Dwi wedi clywed y bydd hyn yn digwydd yn Nhŷ'r Arglwyddi, pryd?


Sut i gysylltu â Gwasanaeth Ymholiadau Tŷ'r Arglwyddi:

  • E-bost: hlinfo@parliament.uk - cewch ymateb o fewn 10 diwrnod (fel arfer o fewn 24 awr). Ymatebir yn Gymraeg i ymholiad a wnaed yn Gymraeg
  • Post: Gwasanaeth Ymholiadau Tŷ'r Arglwyddi, Tŷ'r Arglwyddi, Llundain SW1A 0PW - cewch ymateb o fewn 10 diwrnod.  Ymatebir yn Gymraeg i ymholiad a wnaed yn Gymraeg
  • Ffôn: 0800 223 0855 (rhadffôn) neu 0207 219 3107 (ar agor 10am – 6pm ar ddydd Llun i ddydd Iau a 10am - 4pm ar ddydd Gwener pan fydd y Tŷ'n eistedd a 10am – 1pm a 2pm – 4pm pan fydd ar gau).  Gellir ond derbyn ymholiadau ar y ffôn yn Saesneg
  • Cyfnewid Testun: Gall galwyr sydd â ffôn testun siarad drwy Gyfnewid Testun drwy alw 18001 wedyn ein rhif llawn