Skip to main content
Menu

Cysylltwch â Gwasanaeth Ymholiadau Tŷ'r Cyffredin

Mae'r Gwasanaeth Ymholiadau gerllaw i helpu esbonio gwaith a rôl Tŷ'r Cyffredin i'r cyhoedd.

Mae ymholiadau sy'n mynd i'r swyddfa'n amrywio'n fawr a gellir delio â bron unrhyw agwedd o waith presennol Tŷ'r Cyffredin, ei bwyllgorau, ei aelodaeth, arferion neu draddodiadau. Er enghraifft:

  • Pwy yw fy AS?
  • Sut oes modd i mi godi hyn yn Nhŷ'r Cyffredin?
  • Bydd fydd yn digwydd nesaf gyda'r Bil hwn?
  • Sut oes modd i mi ddod o hyd i araith a wnaed yn Nhŷ'r Cyffredin yn y 19eg ganrif?
  • Gyda beth caf i ddod pan fydda i'n ymweld?

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â gwaith neu aelodaeth Tŷ'r Cyffredin, cysylltwch â Gwasanaeth Ymholiadau Tŷ'r Cyffredin:

  • E-bost: caiff ymholiadau a wnaed yn Gymraeg ymateb yn Gymraeg o fewn 10 diwrnod gwaith: hcenquiries@parliament.uk
  • Post: fel yr uchod, caiff llythyron Cymraeg ymateb yn Gymraeg o fewn 10 diwrnod gwaith: Gwasanaeth Ymholiadau Tŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Cyffredin, Llundain, SW1A 0AA
  • Ffôn: 0800 112 4272 (Rhadffôn) neu 020 7219 4272 yn ystod ein horiau agor: 10am-Hanner dydd a 2-4pm (dydd Llun i ddydd Gwener).  Gall galwyr sydd â ffôn testun ddefnyddio gwasanaeth Cyfnewid Testun drwy alw 18001 wedyn ein rhif llawn.

Gellir ond derbyn ymholiadau ar y ffôn yn Saesneg. Os ydych yn dymuno cyfathrebu'n Gymraeg, cysylltwch â ni drwy e-bost neu bost. Serch hynny, sylwch y canlynol:

  • Ni allwn gynnig cyngor cyfreithiol na dehongli deddfwriaeth
  • Nid oes gennym adnoddau i ymgymryd ag ymchwil sylweddol
  • Ni allwn wneud sylw na chyngori ynghylch polisi'r llywodraeth – dylech gysylltu'n uniongyrchol ag adran y llywodraeth sy'n gyfrifol am y polisi hwnnw. Gweler gwefan GOV.UK am restr lawn o'r adrannau a manylion cyswllt
  • Ni allwn basio negeseuon at Aelodau Seneddol. Defnyddiwch fanylion cyswllt yr ASau a ddarperir ar ein gwefan i gysylltu â'r ASau'n uniongyrchol..