Skip to main content
Menu

Y Pwyllgor Materion Cymreig a'r Gymraeg

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn asesu unrhyw faterion sy’n rhan o gyfrifoldebau Ysgrifennydd Gwladol Cymru a pholisïau Llywodraeth y DU sy’n effeithio ar Gymru. Mae 11 o aelodau ar y Pwyllgor traws-bleidiol a chaiff y Cadeirydd ei ethol gan Dŷ’r Cyffredin.

PC-submit-evidence-committee-standard.jpg

Fel Pwyllgor Dethol rydym yn cynnal ymchwiliadau i bynciau sydd o fewn y materion cyfrifoldeb hyn. Unwaith i bwnc gael ei ddewis, a’r Pwyllgor gytuno ar y cylch gorchwyl, bydd y Pwyllgor yn galw am dystiolaeth ysgrifenedig gan sefydliadau sy’n dangos diddordeb. Mae sesiynau dystiolaeth ffurfiol wedyn yn cael eu trefnu gyda'r unigolion a'r cyrff dan sylw, cyn caiff adroddiad ei gynhyrchu. Mae disgwyliad i’r Llywodraeth ymateb i’r adroddiad ymhen amser.

Wrth i’r Pwyllgor gynnal ymchwiliadau, mae'n cynnig llawer o wasanaethau yn Gymraeg. Er enghraifft:

  • Gall y Pwyllgor glywed tystiolaeth lafar yn Gymraeg, yng Nghymru ac yn San Steffan, gydag adnoddau cyfieithu a chofnodi ar y pryd. Mewn sesiynau y tu hwnt i San Steffan, rydym yn defnyddio lleoliadau sy’n gallu darparu cyfieithu ar y pryd er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn pan mae gofyn amdano
  • Mae modd i dystion hefyd gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig yn Saesneg ac yn Gymraeg ac mae croeso i’r cyhoedd gyflwyno llythyron i’r Pwyllgor yn Gymraeg
  • Mae ein tudalennau ymchwiliadau ar ein gwefan yn ddwyieithog
  • Caiff cyhoeddiadau’r Pwyllgor a straeon newyddion eu cyhoeddi'n ddwyieithog ar Twitter, tudalen Facebook Senedd y DU a thrwy e-bost (welshcom@parliament.uk)