Skip to main content
Menu

Datganiad hygyrchedd

Rydym wedi ymrwymo i wneud ein gwefannau’n hygyrch fel y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio.

Mae’r datganiad hwn yn gymwys ar gyfer cynnwys a gyhoeddwyd o fewn microwefannau ac is-barthau Senedd y DU (er enghraifft, https://housesofparliament.tal.net/candidate).

Senedd y DU sy’n berchen ar ein parthau.

Ein nod yw sicrhau bod ein gwefannau'n hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y dylech fod yn gallu:

  • newid, lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun gael ei wthio oddi ar ymyl y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’n gwefannau gan ddefnyddio bysellfwrdd
  • llywio’r rhan fwyaf o’n gwefannau gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’n gwefannau gan ddefnyddio darllenydd sgrin

Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anghenion mynediad ychwanegol.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

I sicrhau bod gwefannau Senedd y DU yn hygyrch, rydym yn:

  • integreiddio hygyrchedd i mewn i’n gweithdrefnau caffael
  • darparu hyfforddiant hygyrchedd ar gyfer ein staff
  • cynnwys unigolion ag anableddau yn ein personâu dylunio

Pa mor hygyrch yw ein gwefannau?

Nid yw rhannau o’n gwefannau’n gwbl hygyrch. Er enghraifft, rydym wedi dod o hyd i’r problemau canlynol ar rai o’n gwefannau:

  • nid yw peth strwythur pennyn ac ID tudalennau wedi’u hoptimeiddio ar gyfer defnydd darllenydd sgrin
  • mae prinder testun amgen gan rai delweddau a defnyddir rhai delweddau fel dolenni
  • dolenni toredig
  • disgrifiadau tudalen sydd ar goll neu’n aneglur
  • labeli ar goll mewn meysydd ffurf
  • pdfs nad ydynt yn hygyrch
  • mathau o ddelweddau nad ydynt ar eu gorau

Sut i ofyn am gynnwys mewn fformat hygyrch

Os bydd angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol e-bostiwch ni ar webmaster@parliament.uk a dywedwch wrthym:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys sydd ei angen arnoch
  • eich enw cyswllt a chyfeiriad e-bost
  • y math o fformat sydd ei angen arnoch

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, e-bostiwch ni ar webmaster@parliament.uk i roi gwybod am hyn.

Gweithdrefn gorfodi

Os byddwch yn cysylltu â ni gyda chwyn ac na fyddwch yn hapus gyda’n hymateb cysylltwch â’r Gwasanaeth Ymgynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd (2018) Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (rhif 2) (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Senedd y DU wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol ) (Rhif 2).

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

  • ni optimeiddir peth strwythur pennyn ac IDs tudalen ar gyfer defnydd darllenwyr sgrin
  • mae prinder testun amgen ar rai delweddau a defnyddir rhai delweddau fel dolenni
  • disgrifiadau tudalen ar goll neu’n aneglur
  • labeli ar goll mewn rhai meysydd ffurf

Rydym wedi blaenoriaethu ein gwefannau’n seiliedig ar ddadansoddeg a data. Rydym yn gweithio gyda’n timau cynnwys a datblygu i nodi’r enghreifftiau uchod, lle mae’r problemau hyn yn bodoli a sut i’w cywiro.

Baich Anghymesur

Nodwyd y canlynol fel Baich Anghymesur ar gyfer 2020 a bydd yn cael ei adolygu’n flynyddol.

  • ychwanegu is-deitlau at gyfryngau sy’n bodoli ar hyn o bryd a grëwyd cyn 2018
  • ychwanegu nodweddion hygyrchedd at gyfryngau rhyngweithiol sy’n bodoli ar hyn o bryd a grëwyd cyn 2018
  • wedi nodi safleoedd micro a chynnwys isel eu defnydd oherwydd y blaenoriaethir cynnwys allweddol ledled ein gwefannau
  • diweddaru rhai pdfs a grëwyd ar ôl 2018, gan ei fod yn brosiect parhaus yn seiliedig ar fetrics hygyrchedd a blaenoriaethu cynnwys mewnol. Mae hyn oherwydd y nifer mawr iawn o pdfs rydym wedi’u cyhoeddi
  • cyflwyniadau tystiolaeth ysgrifenedig pwyllgor gan y cyhoedd. Ymdrechir i sicrhau y gwneir y pdfs hyn mor hygyrch â phosibl trwy foddau awtomatig. Mae fersiynau HTML o’r dystiolaeth hefyd ar gael ar y wefan

Archifau gwe hanesyddol

Rydym wedi asesu’r gost o ddatrys y problemau hyn gydag is-deitlau, cyfryngau rhyngweithiol a’n gwefannau isel eu defnydd. Rydym yn credu y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn adolygu ein hasesiad yn flynyddol.

PDFs a dogfennau eraill

Mae llawer o’n pdfs a Word a dogfennau eraill fformat ffeil Office yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni drwsio pdfs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os na fyddant yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaeth.

Rydym yn y broses o ddiweddaru ein llyfrgell pdf i ddatrys tri o’n methiannau hygyrchedd mwyaf cyffredin a restrir isod.

  • Ni Nodwyd Trefn tabiau
  • Ni Osodwyd iaith
  • Ni Osodwyd teitl
  • Y nod yw y bydd unrhyw ddogfennau fformat ffeil pdf, HTML neu Office y byddwn yn eu cyhoeddi yn bodloni safonau hygyrchedd.

Fideo byw

Nid ydym yn cynllunio ychwanegu capsiynau i ffrydiau fideo byw lle bydd y rhain wedi’u heithrio o fodloni’r rheoliadau hygyrchedd.

Rydym yn bwriadu nodi a gweithredu technolegau newydd a fyddai’n gwneud hyn yn bosibl, pan fydd technoleg yn esblygu.

Sut profom y wefan hon

Roedd ac mae ein gwefannau’n cael eu profi ar hyn o bryd eu bod yn cydymffurfio â lefel A a lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe V2.1 gan ddefnyddio cyfuniad o offer awtomataidd ar gyfer safonau 2.0 WCAG.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 13 Awst 2020.

Mae’r wefan hon yn cael ei phrofi trwy gyfuniad o offer hygyrchedd trwy gydol mis Awst 2020. Cynhelir y profi gan Senedd y DU.

Sicrheir bod ein gwefannau’n hygyrch yn rheolaidd. Cynhelir y profion hyn gan Senedd y DU trwy brofi awtomataidd wrth ddefnyddio cyfuniad o offer ar gyfer hygyrchedd.